Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl
Byw bywyd o Faddeuant
Ar ôl dysgu ei disgyblion i weddïo, rhoddodd fewnwelediad iddyn nhw ar sut y gallen nhw gydgerdded mewn byd toredig. Dangosodd iddyn nhw sut mae eu Tad yn y nefoedd yn edrych ar eu perthynas â’i gilydd, a dangos iddyn nhw sut i gerdded yng ngoleuni gras.
Mae ein Tad, nid yn unig yn rhoi digon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw, ond mae hefyd yn darparu disgyblaeth ddyddiol. Yn y darn hwn mae maddeuant pechodau yn trafod y casgliad dyddiol o gamweddau a drygioni sy’n rhan o fyw ein bywyd o ffydd mewn byd syrthiedig. Bwriad ein Tad yw ein disgyblu yn y rhan hwn o fywyd hefyd. Os byddwn yn ystyfnigo ac anfaddeugar tuag at eraill (am eu bod wedi ein brifo mor aml), mae ein Tad yn dal ati i’n disgyblu nes byddwn yn dysgu sut i faddau.
Mae byw bywyd o faddeuant yn golygu ein bod yn barod i gydnabod ein pechodau yn erbyn eraill ar unwaith, a gofyn am faddeuant ganddyn nhw gynted ag sydd bosibl. Mae’r math yma o faddeuant yn bosibl pan fyddwn yn ystyried yr hyn mae’r Tad wedi’i faddau i ni’n barod yng Nghrist (Effesiaid, pennod 4, adnod 32). Mae’r sarhad a phoenau dŷn ni’n eu derbyn gan eraill yn ddim o’i gymharu â’r hyn wnaeth Iesu ei ddioddef o ganlyniad i’n pechodau ni’n ei erbyn e.
Mae byw bywyd o faddeuant yn ein galluogi i anwybyddu mân droseddau a ffurfio perthnasoedd a all gynnal gwrthdaro iach dros bechodau rhyngbersonol difrifol. Gall bywyd o’r fath ein helpu hefyd i weld byd llawn anghyfiawnder fel mae ein Tad yn ei weld - byd sydd angen Gwaredwr. Yna, gallwn gymryd rhan yn ei gynllun ehangach i achub y byd trwy fodelu gwirionedd yr efengyl yn ein bywydau ein hunain.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.
More