Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl
Rhodd Maddeuant
Mae llawer ohonom yn byw gyda gwrthdrawiadau heb eu datrys, cysylltiadau sydd wedi chwalu, a materion parhaus rhyngom ni ac eraill. Ond mae yna obaith sylweddol! Mae Duw wedi cynllunio’r eglwys i fod yn gynulliad o gredinwyr sy’n byw mewn heddwch gyda’i gilydd. Yn y darn hwn, mae credinwyr yn cael eu cyfarwyddo i fod yn “garedig, yn dyner ac i faddau i'w gilydd.” Mae’r gorchymyn i fod yn dyner yn cael ei atgyfnerthu drwy’r gorchymyn i faddau. Mae maddeuant yn rhodd dŷn ni’n ei roi i eraill, bywyd aberthol ble dŷn ni’n rhyddhau eraill o atebolrwydd eu camweddu yn ein herbyn. Gan fod Duw wedi rhoi ei Fab ei hun dros ein pechodau, dŷn ni gallu maddau i eraill; mae Duw wedi talu’r ddyled yn barod. Dŷn ni’n gallu derbyn o rodd aberthol Duw pan fyddwn yn maddau i eraill.
Dydy’r cymhelliad ar gyfer y dilyniant yma o gariad ddim i’w gael yn ein calonnau ni’n hunain. Yn hytrach, mae’r dilyniant yn dod gan Dduw a’r hyn wnaeth i faddau i ni yng Nghrist. Mae dyled i’w dalu fod camweddau go iawn wedi’i chyflawni. Fodd bynnag, pan fydden yn gollwng atebolrwydd am gamweddau yn ein herbyn, dŷn ni’n trystio gras Duw i dalu’r ddyled. Mae gan hyn effaith ryddhaol ar ein bywydau ein hunain. Mae’n ein paratoi i fwynhau rhyddid yng Nghrist a harmoni ag eraill! Dychmyga’r rhyddid y bydden ni’n ei brofi pe bai ein holl berthnasoedd wedi’u nodweddu gan faddeuant llawn a rhad ac am ddim. Mae ein cyfeillgarwch fel credinwyr yn cael ei gynnal ‘i atgyfnerthu drwy berthnasoedd caredig, tyner a maddeugar.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.
More