Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl

Forgiving Those Who Wound Us

DYDD 5 O 7

Y Sylfaen ar gyfer Maddeuant

Pan rwyt ti’n gweld y beiau mewn eraill beth wyt ti’n ei wneud?

Mae llawer ohonom yn dioddef o anafiadau dwfn ysbrydol dŷn ni wedi’i derbyn drwy law eraill. Falle bod y rheiny wnaeth ein brifo wedi dweud ryw “Sori” brysiog a symud ymlaen. Falle eu bod wedi actio fel bai dim byd drwg wedi digwydd. Wyt ti’n ei chael hi’n anodd anghofio’r manylion? Wyt ti’n osgoi’r rheiny wnaeth dy frifo? Ar y llaw arall, falle fod eraill wedi dy osgoi am y camweddau wnest ti’n eu herbyn nhw?

Yn y ddameg hon mae Iesu’n galw’r gwas yn ddrwg, oherwydd ar ôl derbyn maddeuant, wnaeth e ddim gwneud yr un fath. Yn hytrach, daliodd ei ddyledwyr i safon uwch na'r hyn a ddaliai ei hun iddi. Wrth i ni ddarllen y darn mae ein calonnau’n gweiddi allan, “Annheg!” Gallwn weld yr anghyfiawnder mor glir: dylai’r gwas fod wedi anghofio dyledion y rhai oedd mewn dyled iddo e.

Dŷn ni’n cydnabod ac yn dymuno tegwch oherwydd gras cyffredin Duw tuag atom. Sut dylem ni ymateb i feiau eraill? Mae’r darn hwn yn ein rhybuddio am ddal diffyg maddeuant yn ein calonnau. Yma, dŷn ni’n gweld yn union sut mae Duw’n disgwyl i ni ymateb i ymddygiad pechadurus eraill - mae e’n disgwyl i ni faddau. Ar ba sail mae Duw’n gosod y disgwyliad hwn? Mae ei ddisgwyliad wedi’i seilio ar ei faddeuant ei hun tuag atom.

Dŷn ni’n gweld pechodau eraill tuag atom yn fwy blin na’n camweddau ein hunain, neu dŷn ni’n disgwyl iddyn nhw i ddangos trugaredd mwy nag ydyn ni’n fodlon ei ganiatáu. Dydy Duw ddim yn caniatáu’r math yna o ymddygiad. Yn hytrach, mae e eisiau i ni gofio ei drugaredd a gweithredu run fath. Yn y pen draw mae ein pechodau yn erbyn eraill yn bechodau yn erbyn Duw. Creodd bob un ohonom ac yn dymuno i ni weld ein gilydd yr un mor werthfawr, gan hyd yn oed osod anghenion eraill o falen rhai ein hunain (Philipiaid, pennod 2, adnodau 1 i 4). Mae’n hollol glir ei fod wedi gosod safon uchel o faddeuant - rhodd ein hiachawdwriaeth ein hunain.

Sut wyt ti’n gallu newid? Rhestra rai o’r ffyrdd mae Duw wedi maddau i ti. Ystyria gariad mawr Duw tuag atat: yng Nghrist fe wnaeth e ddarparu, o’i wirfodd, ffordd i ti gael maddeuant, hyd yn oed wrth i ti ei wrthod (Rhufeiniaid, pennod 5, adnod 8). Dechreua estyn maddeuant i eraill, nid ar sail teimlad, ond ar sail y rhodd trugarog a rhad ac am ddim mae Duw wedi’i roi i ti.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Forgiving Those Who Wound Us

Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Joni a'i ffrindiau, International and Tyndale House Publishers, crewyr Beyond Suffering Bible am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.beyondsufferingbible.com/