Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl
Adnewyddu Perthnasoedd
Wyt ti’n cael dy hun yn meddwl am berthnasoedd ag eraill am eu bod yn doredig neu boenus?
Gall fod yn anodd iawn cael ysbryd llawen pan mae dy feddwl yn troi a throsi gymaint. Mae yna droseddau sy’n gallu dod rhyngom ni ac eraill all darfu ar ein perthynas gydag ein Duw sanctaidd. Mae ein haddoliad i fod yn bur a di-fai. Mae ein maddeuant yng Nghrist wedi gwarantu mynediad at Dduw, ond ei ddymuniad yw i ni fod fel ei Fab. Mae Iesu yn ein hannog i “gymodi” ein hunain ag eraill. Canlyniad cymodi yw adnewyddu’r berthynas i ble y dylai fod. Dŷn ni’n amharchu Duw pan nad yw ein perthynas ag eraill yn iawn. Drwy faddeuant dŷn ni’n gallu unioni ein perthnasoedd a throi at Dduw mewn addoliad gyda chydwybod glir. Er nad yw’r person arall efallai’n dymuno cael ei gymodi, mae’n rhaid i ni o hyd wneud popeth o fewn ein gallu i drio cymodi.
Pan fyddwn yn byw yn y ffordd yma dŷn ni’n anrhydeddu Crist, ac mae ein haddoliad o Dduw yn agored a rhydd. Wrth i ni aeddfedu a dod yn debycach i Grist, byddwn yn ffeindio bod nifer o droseddau gael eu “hanwybyddu.” Dŷn ni’n dewis peidio digio (Diarhebion, pennod 19, adnod 11). Dŷn ni’n estyn maddeuant i eraill, gan gydnabod ein bod ni ac eraill yn gwneud llawer o niwed anfwriadol i'n gilydd. Mae hyn yn ymateb grasol i lawer o bechodau, un a all atal gwrthdaro diangen ac atal perthnasoedd sydd wedi'u difrodi. Mae ymddygiad aeddfed o'r fath yn ein rhyddhau i fwynhau cymdeithas ddi-rwystr gyda Duw ac eraill.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.
More