Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl
”Gwisg” y Cristion
Dŷn ni’n gweld pobl mewn diwydiannau gwahanol yn gwisgo gwisg arbennig. Mae peirianyddion, cogyddion, gweinyddion, staff ysbyty, plismyn, ac ymladdwyr tân oll, yn gwisgo gwisg arbennig i’w gwaith. A dweud y gwir, mae corfforaethau’n bodoli i ddarparu a glanhau gwisgoedd arbennig. Oes yna fath beth â “gwisg y Cristion”? Wel, does dim gwisg fel y cyfryw, ond yn sicr yn ein gofal ar gyfer ein gilydd! Yma, dŷn ni’n cael ein hannog i “wisgo” ein hunain, sy’n awgrymu bwriad a phwrpas. Dŷn ni i wisgo fel ein gilydd mewn ffyrdd penodol. Dŷn ni i wisgo ein hunain mewn trugaredd, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd. Pam? Oherwydd mae’r gwisgoedd yma’n cuddio unigolion sydd â beiau. Mae’r beiau hynny yn dod mewn ffurfiau gwahanol. Felly, mae Duw’n ein harfogi gyda llwyth o briodoleddau ddylai wneud y Cristion yn amlwg, ac yna mae’n rhoi arf ymddygiad i ddelio â’r beiau - maddeuant.
Maddeuant yw ymddygiad dyddiol credinwyr. Mae Duw wedi ein dewis i fod yn bobl sanctaidd. Mae pobl sanctaidd yn golygu i fod yn “ymroddedig,” ar gyfer pwrpas penodol - i fod fel Crist. Yn y darn hwn dŷn ni’n cael ein gosod ar wahân i ddangos cariad Duw tuag at ein gilydd. Fodd bynnag, mae Duw’n gwybod fod gan bawb ei feiau. Mae Duw’n sofran dros y beiau hynny, ac mae e’n disgwyl i ni dderbyn amherffeithrwydd ein gilydd! Cynllun Duw yw sancteiddio credinwyr drwy eu rhyngweithio â’i gilydd. Pan fyddwn yn maddau, dŷn ni’n cydymffurfio â delwedd Mab Duw, Iesu Grist. Mae ein beiau, a beiau eraill, yn troi’n gyfleoedd i ymarfer y rhinwedd o faddeuant.
Wyt ti’n fodlon cyfaddef dy feiau (gweler Iago, pennod 5, adnod 6)? Wyt ti’n fodlon gwisgo gwisg trugaredd, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd. Wyt ti’n fodlon bod fel Crist ac estyn maddeuant i’r rhai hynny sydd wedi troseddu yn dy erbyn?
Dylai maddeuant fod yn nodwedd o gyfeillgarwch credinwyr. Dŷn ni’n sicr yn elwa o fyw mewn patrwm o faddeuant. Ond y mae daioni mwy hefyd yn cael ei gyflawni wrth i ni faddau i’n gilydd: Mae Duw’n cael ei ogoneddu, ac mae Crist yn cael ei ddyrchafu a’i amlygu i fyd sy’n gwylio. Dŷn ni’n edrych fel Crist!
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.
More