1
Mathew 19:26
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Edrychodd Iesu arnyn nhw, ac atebodd, “I ddynion mae hyn yn amhosibl: ond mae popeth yn bosibl i Dduw.”
Yenzanisa
Ongorora {{vhesi}}
2
Mathew 19:6
Felly nid dau berson ar wahân ydyn nhw mwyach ond un. Na wahaned dyn, felly, yr hyn a wnaeth Duw yn un.”
3
Mathew 19:4-5
Meddai yntau, “Ydych chi ddim wedi darllen fod y Crewr wedi eu gwneud o’r dechrau yn wryw a benyw?” Ac fe aeth ymlaen, “Oblegid hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac uno â’i wraig; a bydd y ddau yn un cnawd.
4
Mathew 19:14
ond meddai Iesu, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi, a pheidiwch â’u rhwystro; rhai fel hyn biau teyrnas Nefoedd.”
5
Mathew 19:30
Ond fe fydd llawer o’r rhai cyntaf yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.”
6
Mathew 19:29
Pob un sy wedi gadael brodyr neu chwiorydd neu dad, neu fam, neu blant, neu dir neu dai er mwyn f’enw i, fe gaiff ganwaith cymaint, ac fe gaiff fywyd tragwyddol.
7
Mathew 19:21
Meddai Iesu wrtho: “Os wyt ti am fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, rho’r arian i’r tlodion, ac fe gei drysor yn y nefoedd; wedyn, tyrd a dilyn fi.”
8
Mathew 19:17
“Daioni?” meddai Iesu. “Pam rwyt ti’n fy holi i am hynny? Un yn unig sy’n dda. Ond os wyt ti am fynd i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.”
9
Mathew 19:24
Ie, mi ddywedaf eto: mae’n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i deyrnas Dduw.”
10
Mathew 19:9
Dyma ddywedaf fi wrthych: fod y sawl sy’n ysgaru’i wraig am unrhyw reswm ond ei godineb hi, ac yn priodi un arall, yn godinebu ei hun.”
11
Mathew 19:23
Ac meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, “Credwch fi: fe gaiff dyn cyfoethog hi’n anodd iawn i fynd i mewn i deyrnas Nefoedd.
Pekutangira
Bhaibheri
Zvirongwa
Mavideo