1
Ioan 10:10
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddestruwio, myfi a ddaethym er mwyn cael o honynt fywyd, a’i gael yn helaethach.
Yenzanisa
Ongorora {{vhesi}}
2
Ioan 10:11
Myfi yw’r bugail da: bugail da a rydd ei enioes dros ei ddefaid.
3
Ioan 10:27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i, a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i.
4
Ioan 10:28
Ac yr ydwyf finne yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfyrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt o’m llaw i.
5
Ioan 10:9
Myfi yw’r drws, os aiff neb i mewn drwofi, efe a fydd gadwedic: ac efe a aiff i mewn, ac allan, ac a gaiff borfa.
6
Ioan 10:14
Myfi yw y bugail da, ac mi a adwen fy mau fi, ac am adwaenir gan fy mau fi, fel yr edwyn y Tad fy fi, felly yr adwaen i y Tâd.
7
Ioan 10:29-30
Fy Nhâd i yr hwn a’u roddes hwynt i mi sydd fwy nâ neb oll: ac ni’s gall neb eu dwyn hwy o law fy Nhâd. Myfi a’r Tâd vn ydym.
8
Ioan 10:15
Ac yr ydwyf fi yn rhoddi fy enioes dros [fy] nefaid.
9
Ioan 10:18
Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond ei rhoddi hi yr ydwyfi o honof fy hun: ac y mae i mi feddiant iw rhoddi hi, ac y mae i mi feddiant iw chymmeryd trachefn, y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan y Tâd.
10
Ioan 10:7
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt eilwaith, yn wir yn wîr meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.
11
Ioan 10:12
Eithr gwâs cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn cilio, a’r blaidd sydd yn sclyfio, ac yn tarfu y defaid.
12
Ioan 10:1
Yn wîr yn wîr meddaf i chwi yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy yr drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspailiwr yw efe.
Pekutangira
Bhaibheri
Zvirongwa
Mavideo