1
Ioan 15:5
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Myfi yw’r win-wydden, chwithau yw’r canghennau: yr hwn a arhoso ynof, a minne ynddo yntef, hwnnw a ddŵg ffrwyth lawer. Canys hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.
Yenzanisa
Ongorora {{vhesi}}
2
Ioan 15:4
Arhoswch ynof, a mi ynoch, fel na all cangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, [sef] onid erys yn y win-wydden, felly ni [ellwch] chwithau, onid arhoswch ynof.
3
Ioan 15:7
O’s archoswch ynof, ac os erys fyng-eiriau ynoch, beth bynnac a ewyllysioch gofynnwch, ac fe a’i gwneir i chwi.
4
Ioan 15:16
Nid chwy chwi am dewisâsoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais i fyned i ddwyn ffrwyth, a bod i’ch ffrwyth aros: a pha beth bynnac ar a ofynnoch i’r Tâd yn fy enw, efe a’i rhydd i chwi.
5
Ioan 15:13
Cariad mwy nâ hyn nid oes gan neb, na rhoi o vn ei einioes dros ei gyfeillion.
6
Ioan 15:2
Pob cangen heb ddwyn ffrwyth ynofi, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phob vn a ddygo ffrwyth, efe a’i glânhâ, fel y dygo fwy o ffrwyth
7
Ioan 15:12
Dymma fyng-orchymyn i, ar i chwi garu eu gilydd, fel y cerais chwi.
8
Ioan 15:8
Yn hyn y gogoneddir fy Nhâd ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer: a’ch gwneuthur yn ddiscyblion i mi.
9
Ioan 15:1
Myfi yw’r wîr win-wydden, a’m Tad yw’r llafurwr.
10
Ioan 15:6
Os neb nid erys ynof fi, efe a deflir allan fel cangen, ac a wywa: a [rhai] a’i casclant, ac a’i bwriant yn tân, ac a loscir.
11
Ioan 15:11
Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhôso fy llawenydd ynoch, a bod eich llawenydd yn gyflawn.
12
Ioan 15:10
Os cedwch fyng-orchymynnion, chwi a arhoswch yn fyng-hariad: fel y cedwais i orchymynnion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
13
Ioan 15:17
Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eu gilydd.
14
Ioan 15:19
Pe buasech o’r byd, y byd a garase yr eiddo, eithr am nad ydych o’r byd, ond i mi eich dewis o’r byd, am hynny y mae y byd yn eich casau chwi.
Pekutangira
Bhaibheri
Zvirongwa
Mavideo